Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 7, 2011

O’r Gegin: Cyffaith Eirin Sbeis

Oherwydd methiant rhan helaeth o’r ffrwythau’r tymor yma, (cofnod echdoe) rhaid troi at ffrwythau’r perthi. Mae’r eirin bach gwyrdd yma ‘run siâp â cheirios yn tyfu’n wyllt ar hyd yr heolydd yn y rhan hon o ddwyrain Asturias, ond hyd yn hyn doeddwn i erioed wedi gwneud dim byd â nhw.

Dau reswm sydd am hynny: maen nhw’n sur â’r diawl felly sdim gobaith eu bwyta nhw’n amrwd, ac unwaith mae aderyn wedi cael ei big i fewn drwy’r croen maen nhw’n pydru o fewn y diwrnod fel y rhai yn y llun.

Ond eleni mae cymaint ohonyn nhw, a chyn lleied o bopeth arall, mae na man gwneud rhywbeth, medde fi. Rysait syml iawn, mewn dwy ran:

i bob 1kg o eirin, mae angen 2 ffon fach o sinamon, 2 anis serennog, a 4-5 sleisen denau o sinsir. I’r sosban gyda 200ml o ddŵr, a choginio nes bydd y ffrwyth yn feddal. Dodi’r cwbl i hongian mewn lliain dros nos, fel bod yr hylif yn diferu i bowlen oddi tano.

Pwyso’r hylif, a’i ferwi gyda’r un pwysau o siwgr gwyn nes bod y cyffaith yn sefydlogi.

Rhaid dweud bod cymaint o ewyn wedi codi o’r cymysgedd nad oeddwn i ddim yn siŵr a fyddai’r peth yn gweithio, ond fe wnaeth. Mae’r perarogl yn gryfach na’r blas, a’r blas yn berffaith i fynd gyda chig oer neu gaws, yn enwedig yn ystod y gaeaf.

Advertisements

Responses

  1. Difyr iawn Cath. Gwyrdd ydi’r ffrwyth aeddfed felly ia?
    Ai rhywogaeth cynhenid ydi hi, ‘ta rhywbeth wedi mynd yn wyllt o erddi? Oes yna draddodiad o ddefnyddio’r ffrwyth i roi blas ar wiroddydd, fel ein eirin tagu (sloes) ni?
    Dwi’n hoff o wneud jeli ar gyfer cig a chaws efo eirin tagu, gan ychwanegu afalau surion weithiau hefyd. Mae’r ffaith fod yr holl ffrwyth am ddim yn ychwanegu’n fawr at y pleser wrth gwrs!

    • Ie ac ie – gwyrdd yn tynnu tuag at felyn yw’r ffrwyth aeddfed, ac mae hi’n goeden cynhenid. Ond mae’r trydydd ‘ie’ bach yn wahanol: mae pawb yn y pentref yn gwneud gwirod ffrwyth, ond gyda cheirios sur, ‘guindos’, sy’n cael eu rhoi mewn alcohol anis yr ydych yn gallu prynu mewn siop yn rhad iawn!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: