Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 8, 2011

Wedi’r Ethol, Bargeinio Fu

Cofnod bach i ddala lan â beth sydd wedi bod yn digwydd yn y Cymunedau Awtonomig a’r trefi ar ôl  etholiadau’r mis diwethaf. Yn fras, yr ateb yw: lot o siarad, y rhan fwyaf ohono fe yn unochrog iawn, gyda’r pleidiau i gyd yn tueddu i wneud datganiadau yn hytrach na thrafod o ddifri. Yng Ngwlad y Basg, fel yn Asturias, mae llwyddiant mudiad newydd (Bildu yn eu hachos nhw, Foro Astur yma), yn erbyn y disgwyl, wedi agor pob math o bosibiliadau.

Dechrau felly draw yn y dwyrain: er gwaethaf llwyddiant Bildu, mater o gymodi rhwng dwy neu dair o bleidiau fydd hi yn y rhan fwyaf o’r cynghorau/cynulliadau. Mae hen blaid y cenedlaetholwyr, y PNV, wedi ei wneud yn amlwg na fydd yn gwrthwynebu Bildu, ac mae’r ddwy blaid Sbeinig yn credu y bydd y PNV yn cefnogi’r glymblaid newydd e.e. wrth gymryd yr awennau yn Gipuzkoa, (cymuned o fewn Gwlad y Basg sydd â’i phrifddinas yn Donostia/San Sebastián) .

Mae’n edrych yn debyg y bydd y PP (ceidwadwyr) a’r PSE (Sosialwyr) yn ymuno, er gwaetha’r gwahaniaethau gwleidyddol enfawr sydd rhyngddyn nhw, i rwystro Bildu rhag cael pŵer yn y lleoedd lle mae hynny’n bosib iddynt, e.e. Vitoria. Mae Alfredo Pérez Rubalcaba, dirprwy prif weinidog llywodraeth Sbaen, wedi dweud yn blaen bod angen ‘rhwystro rhag llywodraethu y rhai na ddylai lywodraethu’. Gan ei fod ef yn debyg iawn o gael ei ethol yn arweinydd ei blaid i olynu Zapatero, nid yw hynny’n argoeli’n dda ar gyfer y flynyddoedd i ddod.

Yma yn Asturias mae’r siarad yn mynd yn ei flaen yn llai ymfflamychol, a wedwn i y bydd Foro Astur a’r PP yn llwyddo i gwato’u cyd-gasineb a ffurfio llywodraeth, dim ond i gael cadw’r sosialwyr mâs.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: