Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 9, 2011

Eog ac Eidion

Dwy stori fach o’r papur sy’n dangos yr hen ffordd o fyw Astwraidd fel y mae hi heddiw.

Bob blwyddyn pan fydd y tymor pysgota eog yn agor, bydd yr enghraifft cyntaf a ddelir yn yr afonydd mawr, y Sella yn y dwyrain a’r Narcea yn y gorllewin, yn cael ei werthu am filoedd o ewros mewn ocsiwn: tai bwyta lleol sy’n prynu, fel arfer.

Eleni, fe ymddangosodd canlyniad ocsiwn campanu afon Narcea, enw’r pysgotwr a’r swm a dalwyd, nôl ar ddiwrnod Calan Mai. Ond yn fuan fe ddiflannodd. A heddiw daeth y newydd ei fod ef i sefyll ei brawf am dwyll, bod profion wedi dangos nad o’r Narcea y daeth yr eog o gwbl, ond ei fod e wedi ei ddal mewn afon llai, (lle na fyddai’n cael cymaint o arian amdano) y diwrnod cyn agor y tymor. Ei gyd-bysgotwyr oedd wedi dwyn yr achos yn ei erbyn ar ôl iddo droi lan gyda’r psygodyn am 6.55 y bore, pan oedden nhw eisoes wedi bod yn pysgota am awr neu ddwy heb ei weld e.

O’r afon i’r mynydd, gyda’r gwartheg yn symud i’r porfeydd uchaf un. Erthygl diddorol am un ffermwr sy’n dal i dreulio’r haf i gyd yn byw mewn caban yn gofalu am ei stoc, y llwybr yr oedd yn dilyn o Poncebos lan i Tielve cyn gadael yr heol, perygl y bleiddiaid, ei baneli haul newydd, ayyb.

Ac ar ddiwedd yr erthygl, sylw. Yn ymosod ar y dyn am fynd â’i wartheg i diroedd traddodiadol pentref arall, mewn termau cryf. Yn honni bod pobl ei bentref wedi bod yn gwneud hyn ‘ers canrifoedd’.  Sylw nesaf: yn pwynto mâs fod gwraig y ffermwr yn dod o’r pentref arall a bod ganddi hawl ar y caban a’r pori.  Pawb â’i farn wedyn: na ellid perthyn i ddau bentref, bod pentrefi bychain wastod yn dioddef yng ngwyneb ‘traed mawr’ y pentrefi mwy, taw ar y cyngor mae’r bai am beidio rheoli’r peth, na ddylai’r cyngor fyth ymyrryd ….digon, rwy’n credu, i roi blas y ddadl.

Y bach bob tro yn gorfod ymladd i gadw beth sy’n eiddo iddo yn erbyn cymydog cryfach, boed yn genedl neu’n dalaith neu’n bentref mynyddig.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: