Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 11, 2011

Llywodraeth Leiafrifol

Llywodraeth leiafrifol yn mynd yn ffasiynol iawn ar ôl etholiadau lleol Sbaen, h.y. yn yr ardaloedd lle mae’r pleidleisiau wedi eu rhannu rhwng tair plaid neu ragor.

Ym mhrifddinas Asturias,Uviéu/Oviedo, bydd yr hen alcalde (maer neu arweinydd cyngor) ceidwadol yn dal yn ei swydd, wedi methu â chael cytundeb gyda Foro Astur yn lleol. Mae cynghorwyr newydd ein dinas fawr arall, Gijón, yn cyfarfod yn awr i benderfynu beth wnan nhw; ac yn y drydedd o ran poblogaeth, Avilés, bydd y sosialwyr yn llywodraethu, eto yn lleiafrifol heb gefnogaeth y comiwnyddion.

Dylwn i nodi y bydd y sosialwyr mewn grym ym mhob un o gynghorau’r cymoedd glofaol, ar wahan i ddau, lle enillodd y comiwnyddion.

Ac yng Ngwlad y Basg? Wel, mae’r cenedlaetholwyr adain chwith, Bildu, wedi ennill arweinyddiaeth Donostia/San Sebastián, sy’n ddigon hanesyddol ynddo’i hun. Fe lwyddodd oherwydd bod y PNV (cenedlaetholwyr traddodiadol) wedi dewis peidio ag uno gyda’r PP a’r PSE i gau mâs ymgeisydd Bildu.

Mae’r glymblaid wedi ennill mewn sawl tref llai hefyd, gan gynnwys Lizartza, oedd yn eiddo i’r chwith independentista cyn i lysoedd Sbaen eu gwahardd rhag sefyll oherwydd cysylltiad ag ETA.

Fe fydd yn ddiddorol cael gweld sut fyddan nhw’n llywodraethu mewn materion lleol, ond hefyd wrth gwrs sut fyddan nhw’n cael eu trin gan lywodraeth a chyfryngau Sbaen.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: