Pan gyrhaeddom ni’r bar ar y traeth neithiwr, daeth y perchennog atom ar unwaith i ddangos copi cyntaf ei fwydlen newydd – gyds chyfieithiad i’r Saesneg a gynigwyd gan yr argraffwyr.
Roedd cipolwg yn ddigon imi fod yn siŵr taw un o’r gwasanathau trosi ar-lein oedd yn gyfrifol am y peth. Dyma rai enghreiffitau:
bonito (h.y.. un o’r ddau fath o diwna sy’n cael eu bwyta ffor’ hyn)….yn y rhestr Saesneg: ‘nice’. Wel mae’r pysgodyn yn neis iawn, rhaid dweud, ond beth oedd wedi digwydd fan hyn oedd bod y cyfrifiadur wedi dewis ystyr arall ‘bonito’, sef neis neu bert.
Roedd ‘a la plancha’ (wedi’i grilio ar darn o haearn) wedi’i droi yn ‘to the plate’. Ac mewn o leiaf un achos roedd y gwasanaeth wedi rhoi lan: ‘cocochas de merluza’ = cocochas de hake, er taw bochau/cheeks yw’r cyfieithiad arferol ac yn un digon cyffredin.
Eisteddais i lawr ar unwaith i wneud yr holl beth drosodd. Doedd hi ddim yn anodd. Ond roedd angen nid yn unig gwybodaeth o’r ddwy iaith (ac ambell i air Astwreg) ond hefyd dealltwriaeth o ddiwylliant coginio a darparu prydau bwyd yn Asturias a’r DU. Ac roedd cwpwl o bethau lle bu’n rhaid imi ofyn am eglurhad: pa bysgod bach sy’n cael eu ffrio fel bocarte (brwyniaid), neu pa fath o granc yn union yw hwn.
Y ffaith yw bod gan bob math o granc, neu gimwch, enw priodol yn Sbaeneg: nid cranc + ansoddair ond gair arall. Ac yn aml iawn yr unig ffordd i fod yn siŵr (ar wahan i’w gweld a’i fwyta) yw dilyn trywydd yr enw gwyddonol.
Ar ôl blynyddoedd lawer, rwyf i wedi defnyddio fy Lladin lefel-O!
Gadael Ymateb