Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 13, 2011

Rhyfel y Rhithfyd

Rhyfel yw hi yn awr rhwng hacwyr a llywodraethau mewn sawl rhan o’r byd. Yn dilyn arestiad 3 dyn yn Sbaen yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Anonymous ddial ar heddlu’r wlad drwy ymosod ar eu gwefan nhw: am rai oriau neithiwr roedd yn amhosib cael mynd i fewn i’r wefan. A heddiw daw newyddion o Dwrci bod 32 o bobol, rhai ohonyn nhw o dan 18 oed, wedi eu harestio am fod yn gysylltiedig ag Anonymous ar ôl ymosodiad ar gwmni telecom y wlad, sy’n blocio miloedd o wefannau.

Dros y Sul hefyd fe ymosodwyd ar wefan y Gronfa Arian Rhyngwladol: bydd holl weithwyr y Gronfa yn gorfod cael cardiau diogelwch newydd am fod y cwmni diogelwch ei hun wedi dioddef ymosodiad. Mwy am hyn i gyd a lot o bethau eraill yma yng ngwefan Naked Security.

I rywun fel fi sydd yn defnyddio’r we yn arwynebol, heb ddeall llawer am beth sydd y tu ôl i’r sgrîn, mae’r datblygiadau yma’n swnio’n beryglus. Mae pawb wedi mynd i ddibynnu ar y rhyngrwyd am gymaint, beth sy’n digwydd os bydd yn diflannu? Ble mae’r arian os yw dy fanc yn mynd oddiarlein?

Reit. Well imi geisio dysgu mwy amdano. Achos yn amlwg os eith hi’n rhyfel rhwng y corfforaethau mawr a’r fenyw neu’r dyn sy’n deall perfeddion y broses ac yn chwilio am ryddid i grwydro’r rhithfyd, neu am ganiatau tipyn llai o ryddid i’r corfforaethau a’r llywodraethau i wneud beth fynnan nhw, fydd hi ddim yn bosib gwylio o’r ochr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: