Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 14, 2011

Cerdded Ganol Nos

Newid cywair y blog heddiw: wedi bod yn fisi yn yr ardd a’r gegin eto, ond dyma ddisgrifiad o’r daith gerdded adref ganol nos ar ôl noswaith gyda chyfeillion yn y pentref nesaf.

Roedd hi wedi hanner nos, ac unwaith inni adael y pentref dim ond golau’r lleuad oedd gyda ni. Rydym ni wastod yn mynd â bob o fflachlamp rhag ofn y bydd ceir yn dod, ond neithiwr ni phasodd yr un. Doedd yr awyr ddim yn hollol glir, nifer o’r sêr disgleiriaf yn cwato uwchben cwmwl. Ond roedd y lleuad o fewn ychydig ddyddiau o fod yn llawn, ac yn wir yn goleuo’r cymylau bach yn arianwyn.

Mae’r lôn fach yn disgyn yn serth, yn croesi’r afon ac yn dringo eto rhwng coed mawr.  Welsom ni’r un faedd gwyllt, na’r iyrchod (math o garw) sy’n byw yno, ond efallai’n bod ni’n cadw gormod o sŵn.

Wrth inni nesau at y tŷ fe daethom ni ar draws grŵp o hanner dwsin yn chwilio ar ochr yr heol gyda bagiau plastig: pobl oedd wedi rhentu tŷ am wythnos, ac yn meddwl y celen nhw bryd o falwod! Dydyn ni ddim yn bwyta nhw fan hyn, on roedd y rhain (oedd yn dod o Malaga) yn taeru eu bod yn flasus.

Nesaf, pererin o’r Almaen, gyda’i feic, yn ceisio clirio ffordd ar hyd feidr fierog. Roedd e wedi ymgolli’n llwyr ac yn meddwl taw dyna oedd y Camino de Santiago.  O fewn munud roedd e ar ei ffordd eto’n llawer hapusach.

Ac i goroni’r cyfan, pan gerddom ni i fewn i’r ardd, roedd golau bychan llachar yn y wal: gloyn tân!

Advertisements

Responses

  1. AKA fireflies? Spooky moon here in London tonight as well (+ foxies)…


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: