Wel fe ddwedais i bod lot o bobol yn ei gasau: a heddiw mae pleidiau mawr Sbeinig Asturias wedi dod at ei gilydd i rwystro Francisco Alvarez-Cascos rhag gymryd llywyddiaeth y gymuned (talaith). Fe benderfynodd y PSOE sosialaidd gefnogi arweinydd y PP geidwadol yn hytrach na gweld Cascos yn dod i rym.
Nawr fe ellid gweld hynny’n enghraifft arall o bleidiau’r canol yn cydweithio i gadw mâs chwaraewyr newydd, boed gyda Bildu yng Ngwlad y Basg neu gyda Cascos a’i Foro Astur yma. Yr un hen gŵyn ag sydd gan yr Indignados ar y stryd, bod neb arall yn cael ei big i fewn. Ond yn yr achos yma dwi ddim mor siŵr: mae Cascos wedi pechu yn erbyn cymaint o wleidyddion ei (hen) blaid ei hunan, y PP, ag yw yn erbyn y sosialwyr, yn ystod ei amser fel gweinidog yn llywodraeth Aznar a dros y misoed diwethaf pan fu’n ceisio ac yn methu ennill arweinyddiaeth y PP yn Asturias.
Roedd y cŵn ar y stryd, felly, yn gwybod taw er mwyn bod yn llywydd Asturias a dim byd arall y creuodd Cascos Foro Astur, ac er bod llawer wedi rhoi pleidlais iddo, doedd y bobol oedd yno’n barod, ac yn meddwl eu bod wedi gweld diwedd gyrfa wleidyddol yr hen foi, ddim yn fodlon ei roi iddo.
Yn anffodus i rai, mae hyn yn golygu y bydd gwleidyddiaeth Asturias yn dal i fod yn ddiddorol, ond rwy’n addo peidio a chanolbwyntio arni’n ormodol.
Gadael Ymateb