Rwyf i wedi bod yn cerdded heibio gwely’r wynwns bob dydd ers pythefnos bellach ar y ffordd i gasglu mafon, ond rywsut tan heddiw doeddwn i ddim wedi ei weld yn iawn. Wynwns? Ble maen nhw? Chwyn yr oeddwn i’n eu gweld. Bant â fi felly gyda’m padiau pen-glin newydd i geisio’u clirio nhw.
Ar wahan i’r holl borfa (ni wyddwn bod cymaint o wahanol fathau o borfa i gael), a dant y llew, a’r blodyn y menyn hwnnw sy’n ymlusgo i bob man cyn ffurfio gwreiddiau newydd, dyma beth ges i:
15 iorwg (eiddew), 5 onnen, 3 coeden cnau Ffrengig, 2 goeden llawrwydd – i gyd yn fach iawn, tua hanner taldra yr wynwns, ond bois bach byddai hi wedi bod yn goedwig yma petawn i heb fynd ati o ddifri, oherwydd yr oedd y borfa yn eu cuddio nhw hefyd.
Ac mae hynny’n swnio fel petaem ni’n arddwyr esgeulus iawn! Ond dyma’r broblem: mae rhywun yn canolbwyntio ar rywbeth, fel plannu mâs yr egin-blanhigion pupurod ac yn y blaen, neu yn fy achos i casglu ffrwyth ein llafur fel y mafon, ac yn llythrennol ddim yn gweld gwall yn rhywle arall. Mae’r meddwl, ac felly’r llygaid, wedi penderfynu bod rhywbeth arall yn bwysicach.
Bydd rhaid inni ddechrau cynnal arolwg ffurfiol bob wythnos. Neu ddysgu sut i gerdded o gwmpas â’n llygaid ar agor i bopeth.
Gadael Ymateb