Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 19, 2011

Hirddydd Haf

Wrth ddihuno’r bore ma roeddwn yn clywed yr adar a chlychau’r gwartheg. Deuai digon o heulwen rownd ochrau caeadau’r ffenestri imi fod yn siŵr taw diwrnod o haul byddai hi. Yr unig ddewis: eistedd o gwmpas ar y teras drwy’r dydd neu fynd i’r traeth? Y traeth, wrth gwrs. Roedd hi fel diwrnod o Awst yno, ceir ar hyd y ffordd, y barau’n llawn o bobl yn bwyta cinio, a’r traeth ei hun yn llawn o blant bach gyda theganau newydd yr haf: anghenfil môr oren chwyddadwy oedd y gorau.

Mae’n dal yn dwym yn awr, felly rwy’n disgwyl y bydd perarogl y daturas yn dda heno, er mwyn denu gwyfod y nos atyn nhw.

Mae’r agapanthus ar fin blodeuo, ychydig mwy o las yn ymddangos bob dydd.

Mae meddwl am weithredu gwleidyddol fel petai’n perthyn i fyd arall, ond dyna mae miloedd o’r indignados, y cythruddedigion, yn gwneud heno nid yn unig yn Madrid ond mewn dinasoedd ledled Sbaen. Y tro yma maen nhw’n gwrthwynebu’r cynlluniau i achub yr euro: yn eu barn nhw, ni’r bobl fydd yn talu am ffolineb bancwyr a gwleidyddion. Maen nhw’n benderfynol o gael protest di-drais, yn wahanol i’r hyn a welyd yng ngwlad Groeg. Y diwrnod o’r blaen fe wnaeth un o’r sianeli cabl, Telemadrid, ddefnyddion lluniau o Athens i sôn am y gwrthdystiadau heddiw. A’u hesgus: o, ‘run peth yw’r ddau.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: