Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 20, 2011

Yr Economi, Twpsyn

200,000 ar draws Sbaen, gan gynnwys 10,000 yn Asturias. Dyna faint o bobl aeth ar y stryd ac i’r sgwâr neithiwr i wrthwynebu’r gytundeb dros yr ewro.  Yr un bobl a fu’r mis diwethaf yn gofyn am newid sylfaenol yn y gyfundrefn bleidleisio a gwleidyddol, mesurau arbennig i greu gwaith i bobl ifainc a dim mwy o arian i’r bancwyr.

Dydy 200,000 ddim yn fwyafrif, dyw e ddim hyd yn oed yn llawer, ond mae pethau’n dechrau symud. Yn barod mae’r IU (comiwnyddion, mwy neu lai) wedi dwyn/derbyn rhai o nodau DRY (Democracia Real YA)  fel y newidiadau etholiadaol a’r mesurau dros y diwaith. Mae’r comiwnyddion yn bwysicach fan hyn: mae gyda nhw ddau o aelodau yn y senedd yn Madrid, a nifer yn y cymunedau. Llai nag o’r blaen, ond mae eu llais yn cael ei chlywed.

A yw’r gwrthdystwyr, yr indignados, eisiau cefnogaeth y comiwnyddion sy’n gwestiwn arall; maen nhw wedi bod yn bendant iawn nad oes angen pleidiau gwleidyddol o gwbl, o ba liw bynnag y bôn.   Ar yr ochr dde yn wleidyddol mae gan y PP, a’r CiU yn Catalunya,  gyfle newydd rhwng nawr a’r etholiadau cyffredinol nesaf i ddangos beth fyddai’u hymateb nhw i’r argyfwng presennol.

Achos yr economi, yn syml iawn, fydd yn penderfynu pwy fydd mewn grym yn y Moncloa o flwyddyn nesaf ymlaen.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: