Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 22, 2011

Haf Crasboeth

Bydd y ffermwyr (a ninnau’r garddwyr) yn conan, a pherchnogion y gwestyau a’r cwmniau twristiaeth wrth eu bodd. Yn ôl Sefydliad y Tywydd, y corff swyddogol, fe allwn ni yn Asturias ddisgwyl tonnau gwres reit drwy’r haf eleni, gan ddechrau, medden nhw, y penwythnos sy’n dod. Maen nhw’n darogan yn hyderus y bydd y tymheredd yn cyrraedd 38C – tua’r un peth â gwres gwaed pobl – yn anghyfforddus o dwym imi.

Yng ngweddill Sbaen, yn y canoldir ac yn y de, mae’r trigolion wedi hen arfer â dioddef gwres o dros 40C am hanner dydd; yno, maen nhw’n ceisio newid eu horiau i fyw bywyd gyda’r nos a chysgu yn y tŷ drwy’r prynhawn. A hyd yn oed yn ardaloedd mewndirol Asturias, heb effaith y môr, mae’r thermomedr yn croesi llinell 30C yn aml.

Mae’r Sefydliad hefyd wedi’n rhybuddio y bydd llai o law nag arfer o nawr tan ddiwedd yr haf: a hynny ar ôl y gwanwyn twymaf a sychaf y gall pobl ei gofio. Beth fydd yn ein cadw ni ac yn fwy pwysig ein llysiau i fynd fydd y gwlith. Dwi ddim yn cofio’r un bore heb wlith ar y borfa ers inni ddod yma: mi fyddai colli hwnnw yn newid pethau’n gyfangwbl.

Ta beth, fe fydd yn rhaid imi ddychwelyd at bwnc y tywydd yn ystod yr haf – ac yn bendant ym mis Medi pan fyddwn ni’n gallu dweud a oedd swyddogion y Sefydliad yn iawn neu beidio.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: