Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 24, 2011

Ail Gyfle i Arthes

Lara yw’r enw maen nhw wedi rhoi arni. Arthes fach ifanc – llai na 18 mis – a gafwyd wedi ei niweidio ar y mynydd yn ne-orllewin Asturias, yn yr ardal lle mae’r rhan fwyaf o eirth y dalaith yn byw.

Nôl ym mis Ebrill oedd hynny, ac ers hynny mae wedi bod yn derbyn triniaeth ac yn gwella’n raddol mewn canolfan anifeiliaid gwyllt. Y tŷb yw taw anifail arall oedd wedi ymosod arni – blaidd, neu faedd gwyllt, neu arth aeddfed. Ond erbyn ddoe roedden nhw ar fin ei rhyddhau hi’n ôl i’r fan lle cafwyd hi. Na, meddai’r milfeddygon: mae angen pythefnos arall o leiaf cyn ei bod yn dychwelyd, er mwyn bod yn sicr bod y clwyfau wedi gwella’n ddigonol. Oherwydd mae’n dal yn ifanc, ac ar wahan i anifeiliad mwy, mae ‘na berygl hefyd oddi wrth bobol: yn gynharach y mis hwn fe ymddangosodd potsiwr o’r ardal o flaen y llys am osod magl. Fe ddalodd e faedd gwyllt (a gorfod talu amdano wedyn) ond yn aml iawn mae eirth ifainc wedi eu dal yn y weiren denau a methu dod yn rhydd.

Ac ers hynny mae syniad arall wedi ei godi: beth am ei rhyddhau yn nwyrain Asturias lle mae’n ffinio â Cantabria? Dyma ardal arall yr eirth yn y Cordillera, ond ychydig iawn ohonyn nhw sydd. Gan fod Lara mae’n debyg wedi cael ei gadael gan ei mam (mae’n digwydd yn yr oedran yma fel arfer), byddai hi’n byw ar ei phen ei hun am dipyn beth bynnag. Fydd hi ddim yn barod i eni ceneuon am o leiaf ddwy flynedd eto, felly byddai amser iddi ddod i nabod yr ardal. Ond a fyddai hi’n fwy diogel yno? Mae eirth wedi cael eu symud o’r blaen, filoedd o kilometrau weithiau, ac wedi llwyddo yn eu cynefin newydd. Beth bynnag fydd y penderfyniad, gobeithio y bydd rhyddhad Lara yr un mor llwyddiannus â rhyddhad Villarina dair blynedd yn ôl. (Mae lle i gredu ei bod hi’n feichiog am y tro cyntaf.)

Mwy am Lara a’r eirth eraill yn Fundacion Oso Pardo .


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: