Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 25, 2011

Pigion o’r Newyddion

Mae ETA, grŵp arfog sy’n ymladd am annibyniaeth Gwlad y Basg, wedi rhoi’r gorau i’w arfer o godi arian oddi wrth fusnesau’r wlad. Hyd at ddiwedd mis Ebrill, byddai cwmniau’n derbyn gofynion am arian ‘diogelwch’ h.y. na fydden nhw ddim yn dod o dan ymosodiad bomiau na gynau.  Mae hyn yn awgrymu’n gryf eu bod nhw hefyd wedi rhoi’r gorau i’w hymgyrch arfog. Ers cyhoeddi cadoediad ym mis Ionawr eleni, does na ddim un saethu na ffrwydriad wedi digwydd o fewn gwladwriaeth Sbaen, er bod dau blismon wedi eu lladd yn Ffrainc.

Mae Maer newydd Donostia/San Sebastian, arweinydd clymblaid Bildu yn y ddinas, wedi cael gwared o lun brenin Sbaen o siambr y cyngor.

Mae cwmniau adeiladu Asturias wedi gofyn i’r llywodraeth newydd (a ryn ni dal heb wybod pa blaid fydd yn rheoli – trafodaethau’n parhau) fuddsoddi €370m y flwyddyn am dair blynedd i’w helpu nhw i godi mwy o dai a rhoi gwaith i filoedd o bobl. Hyn tra bod y boblogaeth yn lleihau a’r farchnad tai haf ryw fymryn o’r hyn yr oedd. Nag ydyn nhw wedi dysgu unrhyw beth o’r dair blynedd diwethaf?

Efallai ei bod hi o hyd yn rhan o freuddwydion bechgyn bach, ond bu’n rhaid i’r cwmni trên FEVE dynnu nôl hysbyseb oedd yn cynnig gwaith i 4 o bobol ifainc 16 oed – fel gyrwyr trên!

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: