Mae mynd ar wyliau i Asturias ganol haf dipyn bach fel mynd i orllewin Cymru. Allwch chi byth â bod yn siŵr na fydd hi ddim yn bwrw glaw, neu’n wyntog, neu fydd cymaint o bobl wedi dewis yr un traeth fel na fyddwch yn gallu cyrraedd y maes parcio ac yn gorfod mynd i chwilio am le llai poblogaidd. Mae’r Basgwyr – sy’n dod yma yn eu miloedd – yn ein gwatwar braidd drwy ddweud taw 15 días de playa (pymtheg diwrnod ar y traeth – nid pythefnos yn yr achos yma ond 15 diwrnod drwy’r haf) yw’r cwbl y gellir ei ddisgwyl yn ystod haf Astwraidd.
Ond hei, heddiw mae’n tynnu am y 30C, mae’r haul yn disgleirio a’r awyr yn las fel yn y traethodau y bûm yn ysgrifennu yn yr ysgol fach. A dydyn ni ddim hyd yn oed wedi cyrraedd mis Gorffennaf, felly dyw’r bobol o bant ddim wedi dechrau dod eto, ac mae’r traeth yn perthyn inni.
Traeth arbennig iawn yw hwn, lle mae dŵr y môr yn dod lan drwy dwneli yn y graig, a’r tywod gydag ef, i greu llecyn bach bendigedig. Mae’r drysor swyddogol, a does na ddim arwyddion yn arwain ato, felly wna’i ddim rhoi’r enw fan hyn, ond os bydd unrhyw un yn dod i Asturias dim ond i chi wneud sylw ar y cofnod yma a wna’i esbonio’r cyfan!
Fydd y tywydd braf ddim yn parhau, mae’n debyg: erbyn dydd Mawrth gwynt o’r gogledd-orllewin a glaw fydd hi eto. Wel, bydd y planhigion yn hapus.
Gadael Ymateb