Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 27, 2011

Gweithio heb Ymdroi

Mae mesur y pensiynau wedi ei basio gan aelodau seneddol Sbaen ac ar ei ffordd i’r senedd (siambr uwch). Mae’r syms gwleidyddol dipyn bach yn od: llywodraeth sosialaidd Zapatero sy’n deddfu, a hynny er mwyn plesio mawrion y byd ariannol ac adfer yr ewro, ond doedd gyda nhw ddim digon o aelodau yn y brif siambr, ac wrth gwrs doedd pleidiau bach y chwith ddim am gefnogi’r fath beth. Dyw’r PP (ceidwadwyr Sbeinig) ddim yn ei gefnogi chwaith, ond daeth y CiU (cenedlaetholwyr ceidwadol Catalunya) i’r adwy a phleidleisio gyda’r PSOE.

Peth nesaf, mae’r PP yn Catalunya yn rhybuddio’r CiU, mewn geiriau cryfion, i beidio â chefnogi Zapatero eto, yn enwedig yn y ddadl fawr seneddol sy’n dechrau yfory – neu fe fyddai’r PP Catalanaidd yn rhoi’r gorau i gefnogi CiU yn senedd Catalunya a byddai’n rhaid cael etholiadau yno. (Mae safiad y PP ar y pensiwn ei hun yn ddiddorol: o ddarllen eu gwefan mae’n ymddangos eu bod yn meddwl y gellir adnewyddu’r gyfundrefn bresennol, creu gwaith i lawer mwy o bobol, ac arbed arian ‘run pryd. A ver  fel y dywedir ffordd hyn – cawn weld. Os byddan nhw’n ennill flwyddyn nesaf fe gawn ni gyd weld.)

Mae’r rhan fwyaf o bobol, wrth gwrs, yn ymddiddori fwy yn y mesur ei hun. Fe fydd yn codi oedran bensiwn o 65 i 67, ar wahan i’r bobl hynny sydd wedi talu yswiriant cenedlaethol (cotizaciones) am 38.5 o flynyddoedd. Dyw’r undebau ddim o blaid, ac mae nhw wedi gwrthdystio, ond maen nhw hefyd wedi bod yn rhan o’r drafodaeth ar hyd y broses, hyd at welliannau gafodd eu derbyn yn ystod diwrnod olaf y ddadl.

Ond os yw pobl yn gorfod gweithio am ddwy flynedd ychwanegol, o ble mae’r swyddi i bobl ifainc yn mynd i ddod?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: