Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 28, 2011

Sbaen: Beth Nesaf

Mae senedd Sbaen wedi dechrau ar ddadl cyflwr y wladwriaeth – rhywbeth rhwng y gyllideb ac araith y frenhines yn nhermau San Steffan. Hon fydd y ddadl olaf o’i bath i’r priof weinidog, José Luis Rodríguez Zapatero, ei hagor, achos mae e eisoes wedi datgan y bydd yn gadael ei swydd cyn yr etholiadau cyffredinol y flwyddyn nesaf. Heddiw roedd yn dal i ddweud taw ei fesurau ef fyddai’n helpu gweithwyr a busnesau Sbaen i wella o’r argyfwng economaidd, ac yn cynnig ambell un newydd: rhoi ‘to’ ar wariant y cymunedau  awtonomig (cofnod y diwrnod o’r blaen), a chymorth i’r rhai sy’n methu â thalu morgais oherwydd colli swyddi.

Roedd ei wrthwynebydd, Mariano Rajoy, yn ofalus yn fras iawn am y polisiau y byddai ef a’i blaid yn eu gweithredu petaent yn ennill ac yn canolbwyntio ar ymosod ar record Zapatero gan ddweud ei fod e wedi gwneud pethau’n waeth yn ystod y dair blynedd diwethaf. Bydd y ddadl yn parhau am ddeuddydd eto, ac yfory bydd y cythruddedigion yn cymryd eu lle eto ar sgwâr Puerta del Sol i gynnal eu fersiwn nhw eu hunain o’r ddadl. Byddan nhw’n dechrau drwy drafod themâu economaidd, a’r diwrnod wedyn, gwleidyddiaeth. Fe gyfeiriodd Zapatero atyn nhw, drwy ddweud ei fod yn falch clywed eu cynigiadau ar newid y gyfundrefn wleidyddol ac etholiadol, ond nad oedd e ddim yn cytuno o gwbl â’u gofynion economaidd. Sdim rhyfedd, maen nhw yn frodyr i brotestwyr Athens, ac yntau i Papandreou.

Ol-nodyn ar araith Rajoy: fe alwodd Bildu, clymblaid genedlaetholwyr-chwith Gwlad y Basg, yn ‘fagl newydd ETA’, sy’n rhoi syniad go dda o fel y byddai’r PP yn delio â nhw.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: