Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 29, 2011

Cymry yn Sbaen 1936-39

Rwyf i wedi bod yn difetha’m llygaid drwy’r bore yn darllen rhestrau MI5! Enwau’r gwirfoddolowyr a ddaeth i Sbaen rhwng 1936 a 1939 i ymladd ar ochr y llywodraeth weriniaethol, neu fel meddygon a nyrsus, neu hyd yn oed yn dod â bwyd i’r rhai oedd yn newynu. Mewn ambell i achos, yr unig reswm dros eu cynnwys yw ‘applied for passport’! Mae archifdy’r DU wedi rhyddhau’r rhestrau yma ychydig cyn 75mlwyddiant dechrau rhyfel Sbaen ym mis Gorffennaf. Dyna pryd wnaeth Franco, oedd yn swyddog ym myddin y wlad, wrthryfela i geisio atal y symudiadau tuag at newid meddiannaeth tir, lleihau dylanwad yr eglwys a darparu addysg i bawb. Rhyfel rhwng yr hen Sbaen a’r posibiliadau newydd. Ac yn y diwedd, ymarfer ar gyfer yr ail ryfel byd i Hitler a Mussolini, a ddaeth i fewn ar ochr Franco gydag awyrennau, bomiau, miloedd o filwyr a miliynau mewn arian.

Mae hanes pobl fel Tom Jones Rhos, neu Tom Jones Shotton yn ddiweddarach, a garcharwyd yn Sbaen ar ôl câd yr Ebro, yn hysbys, ond enwau eraill sydd yma, ac weithiau mae’n debyg, enwau newydd, achos mae’r cyfanswm bron yn ddwywaith gymaint ag yr oedd pobl yn meddwl. Dyw’r rhestrau ddim yn hawdd eu darllen: lluniau’r tudalennau sydd yma, wedi llwydo gyda’r blynyddoedd a gyda llawysgrifen dros y geiriau teipiedig. Mae’r rhan fwyaf yn ymddangos heb enw tref yn eu herbyn, dim byd ond ‘sailed to France’ neu ‘believed to be fighting with I.B.’ a’r dyddiad. Ond da yw cael cyfle i gofio rhai ohonyn nhw na ddychwelodd o’r rhyfel yn erbyn y ffasgwyr: Harold Davies, Castellnedd; William Davies, Tonypandy; Harry Dobson, Tonypandy; John Thomas, Bedlinog.

Mae hefyd yn bosib gweld mor anodd oedd cyrraedd Sbaen yn y lle cyntaf: wrth enw John Roberts o Abertridwr, nodir yn gyntaf ei fod wedi dychwelyd o Marseilles, ac yna ei fod (6 mis yn ddiweddarach) yn ymladd yn Sbaen. Roedd heddlu Ffrainc yn aml yn arestio gwirfoddolwyr wrth iddyn nhw geisio groesi mynyddoedd y Pirineos.

Ond yr hyn ddylai hala ias i lawr cefn chwyldrowyr – ym mhob man – yw’r ffaith bod y ffeils yma wedi eu cadw ar agor tan 1954, 15 mlynedd ar ôl diwedd rhyfel Sbaen. Comiwnyddion ac y blaen, ontefe.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: