Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 30, 2011

Achos y Basgwyr

Achos arall o bwys i ddyfodol y Basgwyr wedi dechrau yn yr Uchel Lys yn Madrid.

Mae’r 8 diffynydd  yn ‘achos Bateragune’ yn wynebu 10 mlynedd o garchar os bydd y llys yn eu cael yn euog o fod yn aelodau o ETA.  Dyma, yn fras, y cefndir: ar ôl i’r broses heddwch yng Ngwlad y Basg fynd yn rhacs yn 2006, (ar ôl i fom ETA ym maes awyr Madrid ladd 2 a niweidio dros 50) fe ddaeth aelodau o’r chwith abertzale at ei gilydd ‘yn ddi-flewyn ar dafod’ yn ôl un o’u tystion heddiw, i drafod yr hyn y gellid ei wneud i ail-ddechrau pethau. Ar un peth yr oedden nhw’n gytûn: rhaid ffarwelio â dulliau trais. Yn ôl tyst arall, roedden nhw yna fel unigolion, nid yn cynrychiolu ETA na’r un grŵp arall. Doedd ETA, meddai, ddim yn rhan o’r drafodaeth.

Ond yn ôl yr erlyniad, dyna’n union beth oedd e: ymgais i ail-sefydlu Batasuna, y blaid wleidyddol fwyaf gysylltiedig ag ETA, o dan enw arall er mwyn osgoi’r gwaharddiad oedd arni. Sortu oedd y blaid a ymddangosodd, ac er iddi fabwysiadu ffyrdd hollo heddychlon o ennill annibyniaeth i Wlad y Basg, fe gafodd ei gwahardd yn ei thro, gan arwain at geni Bildu, y glymblaid wnaeth yn dda yn yr etholiadau diweddar.

Gallwch chi ddilyn yr achos (yn Saesneg) bob dydd ar wefan proses heddwch y Basgwyr . Ystyr Bateragune, gyda llaw, yw man cyfarfod. Mar abertzale’n fwy cymhleth: yn wreiddiol, roedd yn golygu gwladgarwr/ol, ond yn awr, yn Sbaen, mae’n golygu radicaliaid gwladgarol Basg.

 

 

Advertisements

Responses

  1. Diolch am y ddolen, ac yn arbennig am y newyddion rheolaidd. Mae cyfryngau Cymru yn ANOBEITHIOL am newyddion lleiafrifoedd Ewrop a’r byd.

    • Da clywed gwerthfawrogiad! Mae cynnwys y blog wedi datblygu mewn amryw ffordd ers y dechrau.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: