Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 1, 2011

Diwedd y gân yw’r Geiniog

Achos llys arall heddiw: yn hollol wahanol i un ddoe, heb na Basgwyr na wleidyddion ynghlwm ynddo (hyd y gwn i). Y bore ma fe aeth yr heddlu i bencadlys SGAE yn Madrid i chwilio am dystiolaeth ynglŷn â’r dwyn (honedig) o gymaint â €400 miliwn. Cymdeithas Awduron a Chyhoeddwyr yw SGAE, ond yn yr achos yma mae’n cyflawni gwaith tebyg i’r Performing Rights Society yn y DU. Ac yn ddiweddar mae wedi bod yn weithgar iawn, yn dwyn achosion yn erbyn barau bach sy’n chwarae miwsig digidol – er nad oes dim y gallan nhw ei wneud yn erbyn y rhai sydd yn gadael y teledu ar sianel roc neu latino. Erbyn hyn, mae cerddorwyr Sbaen yn derbyn mwy o incwm oddi wrth y taliadau digidol nag o werthiannau mewn siopau.

Ers amser, bellach, mae amheuon wedi codi ynglŷn â’r ffordd yr oedd SGAE yn ymddwyn. Roedd ambell i gyfreithiwr yn cynrychioli rhai o’r barau bach wedi gofyn am weld y llyfrau – ac yn anhapus iawn â’r hyn a welson nhw ynddynt. Dywedir bod SGAE wedi cymysgu arian o wahanol ffynnonellau mewn un cyfri, ac wedyn bod rhai o brif swyddogion y gymdeithas wedi elwa fel unigolion o’r arian hwnnw.

Ychydig cyn Nadolig y llynedd fe ymosododd grŵp Anonymous ar wefan SGAE a’i gadael yn y tywyllwch am ddeuddydd. Heddiw eto, mae’n amhosib ymweld â’r wefan. Ac mae Anonymous yn addo parti y tu fâs i swyddfa SGAE heno er mwyn ‘chwerthin’.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: