Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 2, 2011

Llai yn Smygu

Chwe mis yn ôl fe newidiodd barau Sbaen: yn lle bod nhw’n llawn mŵg a sŵn siarad, nawr mae gyda nhw awyr lân a llai o sŵn achos mae hanner y cwsmeriaid tu fâs ar y stryd yn siarad.

Ond yn ôl ffigyrau a ryddhawyd heddiw, dyw’r dinistr oedd yn cael ei ragweld gan cymdeithas y barau ddim wedi digwydd. Yn y barau bach lleol, maen nhw’n gwerthu 10% yn llai – ond does neb yn gallu dweud a yw hynny oherwydd y ddeddf newydd yn gwahardd ysmygu tu fewn i’r bar, neu’n arwydd arall o’r argyfwng economaidd. Mae tua’r un faint o bobl yn gweithio yn y sector yn awr ag oedd ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, a lot mwy ar fin cael eu cyflogi ar gyfer misoedd yr haf wrth gwrs.

A’r ffigwr mwyaf trawiadol yw’r un sy’n dangos bod gwerthiant tybaco yn yr estancos  – siopau gyda monopoli ar werthu tybaco – ar ei lawr.  Mae’n debyg bod 24% yn llai yn cael ei wario ar dybaco – a hynny er bod y pris wedi codi oherwydd cynnydd yn y dreth. Ennill ddwy ffordd felly, os yw barau’r pentrefi’n dal i fynd a llai o bobol yn smygu.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: