Fyddai’r cannoedd o filoedd sy’n cyrraedd Santiago de Compostela ar eu deutroed eleni fel pob blwyddyn arall fyth wedi cael cyfle i’w weld, ond maen nhw i gyd yn cerdded yn ôl traed yr awdur. Mae lladron wedi dwyn y Codex Calistinus, llawysgrif o’r 12fed ganrif sy’n disgrifio’r daith i Santiago, o’i gartref yn yr eglwys gadeiriol yno. Ac am ddeuddydd doedd neb wedi sylwi, oherwydd fe’i gedwid mewn cist yn llyfrgell yr esgobaeth. Ychydig iawn o bobol oedd yn cael gweld y Codex ei hun; roedd hyd yn oed ysgolheigion yn gorfod gweithio gyda chopi ohono. Cymaint oedd ei werth ariannol, doedd e ddim wedi ei yswirio.
Dyma’r llyfr sy’n cael ei alw yn llyfr taith cyntaf y byd (wel, Ewrop) oherwydd y cyfeiriadau mae’n rhoi i ddarpar-pererinion. Mae e nid yn unig yn disgrifio’r llwybr taith ond yn rhoi cyngor ar ble i aros, beth i fwyta, a sut i wneud yn siŵr na fydd y bobol leol yn dy dwyllo. Ond mae hefyd yn bwysig dros ben i’r Basgwyr ac i’r rhai sy’n astudio eu hiaith, oherwydd mae llyfr 5, y daith, yn cynnwys nifer o eiriau a brawddegau yn Euskera, ymysg yr hynaf yn ysgrifenedig yn yr iaith honno.
Mae’n debyg bod rhwyun (cyfoethog iawn) wedi mynnu cael y llawysgrif ac wedi comisiynu’r lladron. Sdim modd gwybod a welwn ni (neu a wêl yr ychydig sy’n cael) y Codex Calistinus yn ôl yn Santiago.
Gadael Ymateb