Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 9, 2011

Fiestas yr Haf

Fiestas yr haf wedi dechrau o ddifri: yn ninas Pamplona yn Navarra, Gwlad y Basg, mae’r teirw yn rhedeg unwaith eto. Rhedeg drwy’r strydoedd, hynny yw, tuag at yr arena lle byddan nhw’n gwynebu’r matador  (yn llythrennol: y lladdwr) heno. Daeth yr Wyl yma’n fyd-enwog oherwydd diddordeb a llyfrau Ernest Hemingway yn y 1930au; heddiw mae pobl yn dod o bedwar ban byd i redeg o flaen y teirw, ac mae’r peth yn cael ei ddarlledu’n fyw.

Prif bwrpas y ras, yn y dechrau, oedd gweld cyflwr y teirw, i’r aficionados gael syniad o werth yr anifeiliaid y byddent yn gwylio nes ymlaen yn ymladd am eu bywydau. Bob dydd, mae’r teirw’n dod o fferm (gre?) gwahanol, fel arfer yn ne Sbaen lle maen nhw’n arbenigo yn y teirw hyn. Wedyn, daeth yn arfer gan y llanciau lleol rhedeg o flaen yr anifeiliaid a dianc rhag eu cyrn. Y gwir yw, ysywaeth, bod llai o bobl y penrhyn Iberaidd yn ymddiddori yn y busnes lladd teirw’r dyddiau hyn.

piraguas y llynedd ffoto:cathasturias

Ar ôl pythefnos yn Pamplona, fe fydd y sioe yn symud yma, i Ribadesella, ar gyfer y Ras Fawr, y Piraguas – 20km mewn ceufadau i lawr afon Sella. Mae dros 750 o fadau i fod i gymryd rhan eleni, a disgwylir 300,000 (ychydig yn llai nag arfer) i wylio o lannau’r afon a dathlu pwy bynnag sy’n ennill.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: