Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 13, 2011

Gwyliau yn y Glaw

Mae tri chant o blant o ganol anialwch y Sahara wedi cyrraedd Asturias i aros gyda theuluoedd am ddeufis. Mae grwp mawr o blant yn dod bob blwyddyn o Tinduf, gwersyll enfawr i ffoaduriaid o Sahara’r Gorllewin, gwlad sydd yn awr o dan reolaeth Morocco. Dyn a ŵyr a fydd y newidiadau sydd ar droed yn Morocco (diraddio staws y brenin, rhoi mwy o rym i wleidyddion) yn gymorth i’r bobl yma, sydd wedi bod yn ymladd am bron i 40 mlynedd i gael hunan-lywodraeth. Dechreuodd ymgyrch (neu ymdrech?) y Saharawi wrth i Sbaen ollwng ei gafael ymerodrol ar eu tir nhw, ond dydyn nhw erioed wedi cael llawer o gefnogaeth gan y gwledydd mawr.

A dweud y gwir, yr unig ‘newyddion’ am y Saharawi yn ddiweddar oedd honiad y Daily Telegraph bod aelodau o’r Polisario, llywodraeth a byddin guerrilla Sahara’r Gorllewin, yn cael eu talu i ymladd yn rhengoedd Muammar Gaddafi yn Libia – honiad a wadwyd yn syth gan lysgennad y Saharawi yn Ethiopia.

Ta beth, mae’r plant yma yn byw bywyd hollol annaturiol yn Algeria, mewn gwersyll lle nad oes gwaith i’r rhan fwyaf o’u rhieni, dim ond arian elusen. Mae nifer helaeth o’r trigolion yn dioddef clefydau sy’n tarddio o’r bywyd hwn, fel clefyd y siwgir; bu un o’n cyfeillion ni sy’n feddyg yno sawl tro yn eu trin. Ond y gwirionedd yw na fydd yr un ohonynt yn byw bywyd llawn ac iach eto nes byddant yn gallu dychwelyd i’w tir, a fydd hynny ddim yn digwydd nes bon nhw’n dod i gytundeb gyda Morocco ynglŷn â llywodraeth y wlad.

Gobeithio y bydd y plant i gyd yn mwynhau gwyliau haf hapus, gweithgar, a glawiog!

 

ON: bydd Morocco a’r Polisario yn cwrdd yn anffurfiol yn Efrog Newydd wythnos nesaf.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: