Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 14, 2011

Llywodraeth? Pa Lywodraeth?

Ar ôl bron i ddeufis fe fydd gydag Asturias lywodraeth o ‘fory mlaen. Fel yr awgrymais ar y dechrau, dyw’r PP geidwadol a’r Foro Asturias (hyd yn oed yn fwy ceidwadol ond yn ‘daleithiol’ hefyd) ddim wedi llwyddo i ddod i unrhyw gytuneb ynglŷn â dyfodol y gymuned. Yn wir bu arweinydd y PP yn ymosod yn ffyrnig arno. Fe enillodd y Foro fwy o seddi na’r un blaid arall, ond ymhell o fod yn ddigon i lywodraethu gyda mwyafrif. Ac er i Cascos geisio cynnal trafodaethau gyda phawb, hyd yn oed comiwnyddion yr IU,  roedd ei holl ymdrech i ymddangos yn wladweiniol yn ofer. Doedd neb yn hoffi ei gynlluniau i gael mwy o ysgolion ac ysbytai preifat. Rwy’n amau a fyddai’r rhan fwyaf o’r bobol wnaeth bleidleisio drosto yn eu hoffi chwaith: y syniad o roi Asturias o flaen popeth oedd yn eu denu nhw.

Penderfyniad y PP a’r PSOE oedd peidio â sefyll yn erbyn Cascos ar gyfer llywyddiaeth y gymuned. Felly mae’n sicr o gael ei ethol pan ddaw’r bleidlais swyddogol bore fory. Ond beth fydd e’n gallu ei wneud? Go brin y bydd y pleidiau eraill yn cefnogi ei syniadau, does neb eisiau newidiadau mawr drud pan fydd hi’n argyfwng ariannol ar gymaint o deuluoedd. A bydd pawb yn mynd bant ar eu gwyliau beth bynnag. Felly ar ôl deufis heb lywodraeth mae’n debyg y cewn ni fisoedd lawer heb fawr o lywodraeth. A fydd unrhyw un yn sylweddoli?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: