Fiesta’r pentre nesaf yfory – anodd credu bod blwyddyn gron wedi mynd heibio ers y un ddiwethaf. Roedden i wastad yn meddwl bod day reswm am y ffaith fod cymaint o fiestas cefn gwlad yn cael eu cynnal yn ystod misoedd yr haf: am fod y tywydd yn fwynach, ac am fod llai o waith eisiau ei wneud ar y fferm. Ond yn ddiweddar darllenais i erthygl oedd yn cynnig rheswm rall: yr indianos.
Mae’r indianos yn cyfateb i’r Cymry ar Wasgar: pobl a/neu eu disgynyddion a ymfudodd i wledydd eraill i chwilio am fywyd gwell. Crair geiriol yw e, o’r cyfnod pan oedd pobl Ewrop yn cyfeirio at wledydd yr Amerig fel ‘India’. Mae’r un peth i’w glywed yn y Saesneg ‘West Indies’. Nodwedd arall angenrheidiol yr indiano yw cyfoeth. Dim ond y rhai oedd wedi gwneud yn dda oedd yn gallu fforddio teithio’n ôl i Sbaen – nid unwaith, ond unwaith y flwyddyn mewn rhai achosion.
Roedden nhw’n dod yn ystod yr haf gan amlaf, ac yn hoff iawn o noddi fiestas pentrefi eu mebyd. Nhw ddechreuodd yr arfer o dalu cerddorwyr yn lle dibynnu ar bwy bynnag o’r trigolion oedd yn gallu canu gitâr neu acordion. Nhw ddaeth â’r cwrel a gemau i addurno gwisgoedd y merched. A nhw, yn ystod 20au a 30au y ganrif o’r blaen, dalodd am drydan mewn rhai llefydd i gael golau cryf reit tan ddiwedd y dawnsio – h.y, gyda’r wawr.
Sdim rhyfedd, felly, bod un o fiestas mwyaf newydd yr ardal, el Veraniante, yn dwyn yr enw nid yn unig i gyfeirio at ymwelwyr heddiw, ond hefyd yn cofio’r indianos wnaeth gymaint i gryfhau’r traddodiad o fiesta pentref.
Efo’r Basgwr Sanchez yn ennill cymal ddoe o’r Tour de France, a Geraint Thomas yn gwneud y Cymry’n falch ohono, oes yna Astwriaid yn y ras hyd y gwyddost? Roedd baner Asturias gan un o’r cefnogwyr ar ochr ffordd yn y Pyreneaid ddoe.
By: WIlias on Gorffennaf 15, 2011
at 9:19 pm
Mae Samuel Sanchez yn dod o Asturias! Er ei fod yn cystadlu mewn tîm o Wlad y Basg, cafodd ei eni yn Oviedo.
By: cathasturias on Gorffennaf 16, 2011
at 9:26 am
O, digon teg! Roeddwn wedi meddwl fod tim Euskaltel Euskadi yn defnyddio dim ond Basgwyr. Fy nghamgymeriad i. Ta waeth, byddai’n braf cael tim o ddim ond Cymry yn cystadlu! Breuddwyd gwrach…
Son am faneri: pam fod baner Sbaen weithiau’n cynnwys arfbais, a weithiau ddim?
By: WIlias on Gorffennaf 18, 2011
at 10:27 pm
Wel roeddwn i wedi sylwi ar y baneri gwahanol ond erioed wedi mynd ati i ffindo mas pam. Mae’n debyg bod sawl arfbais yn ymddangos, yn dibynnu a yw’r faner yn chwifio uwchben rhywle llywodraethol, militaraidd ayyb. Ond hefyd mae gan ddinasyddion Sbaen yr hawl i ddefnyddio baner heb arfbais o gwbl. Clir?
By: cathasturias on Gorffennaf 20, 2011
at 6:45 pm