Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 16, 2011

O’r Ardd: Wynwns a Ffrwyth

Diwrnod caled oedd hi yn yr ardd heddiw, oherwydd y gwres a’r lleithder. Pnd weithiau mae’n rhaid mynd ati i orffen rhywbeth cyn bod pethau’n cael eu sbwylo. Tro’r wynwns oedd hi: erbyn hyn maen nhw i gyd yn gorwedd yn dwt ar y balconi, y lle gorau i’w sychu. Mae yn golygu wrth gwrs na fedr pobl ddim eistedd ar y balconi, ond ta waeth am hynny.

A chyn hynny, mynd o amgylch i gasglu ffrwythau. Mefus, y rhai olaf ac ychydig ohonyn nhw; cwrens duon wedi cael ail enedigaeth, ond eto rwy’n credu taw dyna’r cyfan; eirin Claudia, hyfryd; ambell i ffigysen o’r goeden sydd rhyngddom ni a drws nesaf, braidd yn ddyfrllyd. A’r physalis.

ffrwythau'r physalis ffoto:cathasturias

Mae’r physalis wedi tyfu’n arbennig o dda eleni, mewn safle newydd lle mae’n cael digon o haul a ddim gormod o law na gwynt. Planhigyn deniadol yw e, gyda dail fel melfed a blodau bach melyn. Mae’r ffrwyth yn ffurfio y tu fewn i glawr sy’n mynd o las i frown ac yna’r sychu fel bod lliw oren y ffrwyth  yn ymddangos fel fflam mewn lamp hen-ffasiwn.

Da i’w bwyta hefyd yw’r physalis, gyda blas surfelys hyfryd. Ond bydd rhaid inni wneud rhyw fath o ffrâm i gadw’r canghennau rhag gorwedd ar y pridd, lle mae’r malwod yn bwyta’u ffordd i fewn at y ffrwyth.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: