Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 17, 2011

Dawns y Glaw

Dechrau drwg i dymor fiestas yr haf. Wrth inni adael y tŷ neithiwr i gerdded draw i’r pentref nesaf ar gyfer Fiesta’r Ymwelwyr, cyrhaeddodd y diferion cyntaf o law. Newid cot a mâs â ni: erbyn cyrraedd, yn wlyb stecs. Y sgwâr yn wag, y band yn chwarae i neb (wel roedden nhw dan do), a’r teras o flaen y bar yn un siâp symudol o bobol yn gwthio yn erbyn ei gilydd i gadw’n sych. Mae nhw arfer codi pabell i fiesta’r gaeaf, odnd doedd na ddim un neithiwr.

Aethom ni i lawr i’r bar ar y traeth, lle roedd rhai o’r cyfeillion eisoes wedi ymgynull, i glebran ac yfed seidr. Daeth y perchennog â tortilla hyfryd tua hanner nos, a drwyddi draw fe ddaeth y glaw. Rhosom ni un tro bach arall ar y fiesta, ond roedd y peth yn anobeithiol:  cwpl o ferched yn dawnsio o dan eu hymbarel, pawb arall (ac ychydig ohonyn nhw oedd) yn dal yn y bar . Dim byd amdani ond cerdded yn ôl a hongian y dillad i sychu.

Dim glaw heddiw wrth gwrs, a digon o wynt i sychu popeth.  Y bore yn y gegin, yn  glanhau’r ffenestr fawr – tu fewn a tu fâs (16 o wydrau). A’r prynhawn ar y teras gyda chyfeillion, cyfnewid ciwcymber am dorth cartref a siarad am hyn a’r llall.

Yfory? Mae’n dibynnu ar y tywydd.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: