Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 19, 2011

O Feddyg i Feddyg

Dihunais i’r bore ‘ma gyda’r llygad yn waeth nag o’r blaen; yr amrannau wedi chwyddo a’r canol yn goch. Digon i hala dychryn ar blant y pentref. Bant â ni felly i’r dref, i weld y meddyg ar frys. Doedd hi ddim yn fodlon dweud beth oedd yn bod, a bu’n rhaid inni fynd hanner awr lan y dyffryn i Arriondas i ysbyty’r ardal ddwyreiniol. (Yr un ysbyty gafodd lifogydd drwyddi draw yr amser hyn llynedd – dim arwydd o hynny’n awr).

Dim ond un meddyg oedd yn gweithio yn Urgencias, a buom ni yno’n ei ddisgwyl am awr gron. Yn rhyfedd, roedd pawb oedd yno  – dwsin ohonom ni i gyd – naill ai’n dioddef gyda’r traed neu’r llygaid. A phan welais i ‘r boi, do wnaeth e roi diferion imi, ond hefyd dweud y byddai’n rhaid imi ddod yn ôl mewn wythnos – pan fydd yr haint wedi darfod, gobeithio –  i weld arbenigwr, gan obeithio y bydd hwnnw neu honno yn gallu dweud beth sydd wrth wraidd y broblem.

Tebyg iawn yw profiad y claf mewn sawl gwlad, rwy’n siŵr. Ond rwyf i ‘n credu bod mwy o feddygon yn awr yn danfon rhywun i weld doctor arall, neu arbenigwr, yn hytrach na dweud wrtho’n blaen beth sydd arno fe a beth ddylai weithio. Ai am eu bod yn gwybod bod eraill yn gwybod yn well na nhw, ai am eu bod yn ofni achosion yn eu herbyn am fethu rhywbeth, sdim syniad gyda fi.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: