Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 20, 2011

Yr Astwryn Cyntaf

Gyda gwyliau’r haf, daw’r tagfeydd ar y ffyrdd; yn enwedig i’r rhai sy’n teithio ar hyd yr arfordir ar yr heol fawr rhwng Santander a Ribadesella. Unwaith y bydd y car wedi croesi i fewn i Asturias, dyna ddiwedd ar y draffordd a 25 km o hen heol: a hen heol gyda gwaith yn mynd ymlaen o’i chwmpas i geisio orffen y draffordd newydd. Conan y byddwn ni o hyn tan fis Medi, oherwydd maen nhw wrthi ers dros 15 mlynedd! Newid meddwl, dim digon o arian, problemau gyda’r tir, pob reswm posib dros oedi hir.

Ond yn dawel bach wrth i’r heol newydd ymddangos ar wyneb y tir, mae pethau eraill wedi eu darganfod mewn rhai o’r ogofau sy’n britho’r ardal (carreg galch eto). Yn ôl y papur, mae sgerbydau nifer o anifeiliaid o Oes yr Iâ wedi troi lan – ceirw, ceffylau ac yn y blaen. A gorau oll, dau rhinocerws gwlanog, y ddau bron y ngyfan. Roedd hwn yn anifail prin yng ngogledd Sbaen hyd yn oed bryd hynny, ond weithiau roedden nhw’n crwydro draw o ganol Ewrop pan oedd yr iâ ar ei ddyfnaf.

Ac yn well na’r rhain i gyd, cafwyd hyd i nifer o esgyrn dynol, gan gynnwys penglog cyflawn: yr unig un o’i gyfnod a gafwyd erioed yma. Roedd y dyn ifanc yn byw  rhwng 6000 a 9000 o flynyddoedd yn ôl, yn aelod o lwyth sydd yn awr yn cael ei alw’n asturense.  Mae’n siŵr ei fod e wedi byw bywyd caled yn ogystal â byr, ond yn fwy na hynny amdano, ni ŵyr neb.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: