Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 21, 2011

Aderyn yn Cyrraedd 10,000m

Hyd at ddwy flynedd yn ôl byddem ni’n falch iawn petaem ni’n gweld y quebrantahuesos, y torrwr esgyrn, yn hedfan yn uchel uwch ein pennau ar daith gerdded yn y Picos de Europa. Roedd yr aderyn anferth wedi diflannu o Asturias oherwydd roedd yn cael ei ladd gan helwyr anifeiliaid fel yr arth a’r blaidd. Ar wahan i ambell un oedd yn pigo draw o’r Pirineos am brynhawn, doedd dim un ar ôl.

Ond erbyn hyn, yn ôl y gwyddonwyr sydd wedi bod yn cadw golwg barcud (ha ha) ar ‘Deva’, yr unig un sydd yn dal yn fyw o’r ddwy a ryddhawyd yn y Picos yn gywion, mae hyd yn oed torheulwyr traethau Llanes yn cael y cyfle i’w weld.

Mae’n debyg bod ‘Deva’ yn hoff iawn o hedfan ar hyd yr arfordir, hynny yw ar ôl iddi gael bwyd yn y Sierra del Cuera,  sydd rhwng y Picos a’r môr. Mae’r teclyn radio sydd ynghlwm wrth ei choes hefyd yn dangos ei bod hi wedi cyrraedd bron i 10,000m o uchder ar brydiau, a dywed yr arbenigwyr bod hyn yn golygu ei bod yn iach ac yn dod ymlaen yn dda. Roedden nhw wedi amau y byddai hi’n teimlo straen ar ôl marwolaeth ei chwaer, oherwydd dyw’r adar yma ddim yn byw ar eu pennau’u hunain fel arfer, ond mewn grwpiau, fel y fwlturiaid eraill sydd i’w gweld o gwmpas y Picos.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: