Llwybr ceunant afon Cares yw’r daith gerdded fwyaf adnabyddus yn y Picos de Europa, heb os nac onibai. Ymysg ymwelwyr o bob math – grwpiau ysgol, mynyddwyr o wledydd eraill, a thwristiaid cyffredinol sydd eisiau gweld ‘rhywbeth’ o’r mynyddoedd – mae’n sefyll allan. Rhaid ticio’r blwch yma.
Mae’n brysur drwy’r flwyddyn. Ddoe, yn weddol gynnar (ar ôl ymdrech arbennig ar ein rhan ni i godi mewn pryd), roedd y swyddog parcio yn Puente Poncebos yn barod yn rhybuddio nad oedd lle yn nes at ddechrau’r llwybr a bod rhaid aros fan hyn. Man cychwyn llwybr Bulnes (Mawrth 2010) yw Puente Poncebos hefyd.
11km sydd o Puente Poncebos i Caín yn nhalaith León, y rhan fwyaf yn hawdd. Mae’r llwybr yn codi ac yna’n disgyn ac wedyn yn aros ar yr un lefel. Ac er nad yw hi ddim yn ddelfrydol i neb sy’n dioddef vertigo, mae’n ddigon llydan i gerdded fesul dau mewn rhannau helaeth.
Mae’r llwybr yn dilyn yr afon, ond llawer yn uwch: fe’i wnaethpwyd i wneud yn haws y gwaith o gynnal a chadw ar y canal sy’n cario dŵr i’r pwerdy yn Puente Poncebos.
Dyma ran o’r canal islaw’r llwybr, a chlogwyni’r ceunant o’n blaenau ni. 500 o ddynion a weithiodd ar adeiladu´r canal nôl yn y 1920au, a bu farw 45 yn ystod y gwaith. Rhywbeth i’w gofio’r tro nesaf y bydd rhwyun yn cwyno am bobl Iechyd a Diogelwch.
Saith awr gymerodd e inni fynd i Caín ac yn ôl, gan gynnwys tynnu llawer o luniau a bwyta’n cinio ni ar lan yr afon. Dechrau da i wyliau’r tri chyfaill sy’n aros gyda ni – aelodau o Glwb Mynydda Cymru am brofi mynyddoedd Asturias.
Diolch am y wybodaeth yma. Mae o i weld yn le gwych am wyliau.
By: Arfonj on Gorffennaf 24, 2011
at 10:01 am
A diolch iti am ei drydar e!
By: cathasturias on Gorffennaf 24, 2011
at 10:16 am
CMC yn dilyn yr hanes o Fwlgaria
By: Dai Tomos on Gorffennaf 25, 2011
at 11:56 am