Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 25, 2011

Colli Arian Mawr

Yn ôl y papur lleol bydd Asturias yn colli dros €1,000 miliwn o gymorthdaliadau Ewropeaidd yn ystod cyfnod y gyllideb nesaf, 2014-2020. Bydd y manylion, meddai’r erthygl, yn cael eu cyhoeddi yfory.

Y rheswm yw bod gwledydd dwyreiniol Ewrop am ddod yn rhan o’r gyfundrefn cymorthdal ardaloedd , a gan eu bod fel y cyfryw yn dlotach, bydd y pwynt cyfartaledd yn disgyn ac Asturias yn codi i’r adran nesaf heb fod dim byd wedi digwydd yn economaidd i achosi hynny.

Mae hefyd yn ffaith, wrth gwrs, fod yr UE yn ceisio cynilo yn lle hala mwy o arian. Ar un llaw synnwn i damaid y bydd rhaid rhoi mwy i wlad Groeg yn y tymor byr, ac ar y llaw arall mae llais y ‘trethdalwr Almeinig’ (heb sôn am y Seisnig) yn cryfhau yn erbyn rhoi ‘ein harian ni’ i wledydd eraill.

Fel mae’n digwydd, bydd y cymorthdaliadau i’r cymunedau glo hefyd yn gorffen yn 2014, eto’n cael effaith ar Asturias . Does ‘na ddim sôn am Gymru yn yr erthygl, a hyd yn hyn nid wyf i wedi cael hyd i unrhyw ffynhonell arall ar y we.

Sawl awr wedyn: dal heb ddarllen unrhyw beth perthnasol, felly bydd yn rhaid aros tan yfory i weld a oedd y papur yn iawn. Mae’r cyfeillion o CMC wedi mynd i Fuente De heddiw, bydd mwy o’u hanes nhw yfory hefyd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: