Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 26, 2011

Ar yr Arfordir

Mae’n hwyl cael pobl yn aros yma ac yn mynd o gwmpas gyda nhw: cyfle i weld ein cynefin drwy lygaid eraill. Ddoe fe aeth y mynyddwyr rownd i Fuente De a lan yn y car cebl cyn ymweld â’r cwt rhyfeddol Cabaña Veronica (tŵr gwn o hen long rhyfel) a chyrraedd copa Torre de las Horcadas Rojas. I gyd o dan heulwen braf.

Ond heddiw daeth y glaw yn ôl, ac aethom yn gyntaf i dref Llanes i weld morglawdd hynod yr harbwr yno:

Rwy’n teimlo braidd na ddylwn i ddim cynnwys y llun yma, achos fe fydd yn lladd y syrpreis i’r neb sy’n ymweld â Llanes o hyn ymlaen. Ni ellir eu gweld nes cyrraedd y wal uwch eu pennau: pob un o’r ciwbiau mawr concrid wedi ei beintio’n wahanol.

A’r prynhawn yma ar hyd yr arfordir (fe ysgafnodd y glaw) i edrych ar ffurfiau’r carreg galch:

Diwrnod i ymhyfrydu yn y wlad o’n cwmpas ac ni i feddwl am arian. Dylwn i nodi fan hyn nad oes dim byd mwy wedi ymddangos am y cymorthdal Ewropeaidd (ddoe), ond mae cyhoeddiad swyddogol yn Madrid ynglŷn â newid y ffordd y mae’r cymunedau awtonomig yn cael eu hariannu yn golygu y bydd Asturias yn gorfod ad-dalu €600 miliwn i wladwriaeth Sbaen. Pawb yn aros, felly, i weld o ble y daw y tyfiant glas economaidd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: