Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 27, 2011

O’r Gegin: at y Cyffaith

Does gyda fi ddim ffrwyth ar hyn o bryd yn briodol ar gyfer cyffaith, ond mae digon o afalau bach gwyrdd anaeddfed yn cwympo o’r coed. Dyma gyfle i arbrofi gyda rhywbeth rwyf i wedi darllen amdano ond heb ei wneud erioed. Pectin.

Mae’r afalau yma yn llawn pectin: yn fwy nag afalau aeddfed ac yn fwy na’r rhan fwyaf o ffrwyth eraill. Fel arfer bydda’i’n rhoi darn o afal i fewn gyda mafon, cwrens neu eirin er mwyn cael y cyffaith i sefydlogi. Mae pobl eraill yn prynu pectin yn bowdwr, ond dyw e ddim ar werth yma yn Asturias.

Wel, ar ôl glanhau’r afalau a’u berwi am 20 munud gyda digon o ddŵr i’w gorchuddio, a’u gadael dros nos mewn mwslin i gael yr hylif i gyd, roedd yn rhaid ail-ferwi’r sudd i’w leihau at ei hanner (i’w wneud yn gryfach). Wedyn roedd gyda fi tua 500ml o pectin – digon i ddwy sesiwn gwneud cyffaith yn ôl yr hyn yr wyf i wedi darllen.

Mae’r pectin yn y rhewgell yn awr nes bydd ei angen. Ym mis Medi pan ddaw’r mafon nesaf, cewch chi wybod a yw’n beth da.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: