Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 28, 2011

Dyna Ti Domato!

Chwynnu eto heddiw: mae’r tywydd yr haf yma yn berffaith i chwyn os nad i dorheulwyr. Y bore ‘ma y ciwcymbers a’r halogan gafodd gwelyau glân, a’r prynhawn yma tro’r tomatos ‘ceirios’ oedd hi. Yn rhyfedd, mae Sbaenwyr yn defnyddio’r gair Saesneg ‘cherry’ i gyfeirio atyn nhw. Ond wedyn maen nhw’n galw tomatos eirin (y rhai hir o’r Eidal sy’n dda iawn mewn saws) yn domatos gellyg. Beth bynnag yw eu henw, mae’r tomatos bach yn ffrwythlon eto eleni. Roedd y rhain wedi dod eu hunain yn y tŷ gwydr o hadau oedd wedi cwympo yno y llynedd, ac yna wedi eu symud i lecyn bach ym mhen ucha’r lleuarth i gael yr haul drwy’r dydd.

Ar y ffordd yno fe welaid i hwn yn tyfu ar un o’r planhigion Marmande :

Dyma’r unig un sydd wedi troi’n goch hyd yn hyn ac mae’n argoeli’n dda. Bydd blas cryf arno, yn enwedig am ei fod wedi aeddfedu ar y brigyn. Nid tomato y byddai rhywun yn ei gael mewn archfarchnad yw hwn.

Mae’r cyfeillion mynyddgar wedi dringo lan i ardal ddwyreiniol y Picos am dridiau – yn aros yn y cytiau mynydd. Dim siw na miw ganddyn nhw eto, felly mae’n rhaid bod pethau’n mynd yn iawn. Mwy am eu taith pan ddôn nhw lawr.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: