Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 29, 2011

Etholiad ar y Gorwel

A ninnau newydd ddod dros yr etholiadau cymunedol (mewn rhai llefydd) a threfol (ymhobman) dyma un arall ar y gorwel. Roedd disgwyl y byddai etholiadau cyffredinol ar gyfer y llywodraeth yn Madrid yn cael eu cynnal yng ngwanwyn 2012, ond heddiw fe gyhoeddodd y Prif Weinidog taw ym mis Tachwedd y bydd y diwrnod.

Daw hyn wrth gwrs yn erbyn cefndir o argyfwng economaidd sy’n pallu â gwella, er gwaethaf y newidiadau i bethau fel amodau gwaith a phensiynau. Mae’r pethau yna ond yn dangos effaith yn y tymor hir, buddsoddi sydd eisiau i greu gwaith newydd. Mae’r llywodraeth bresennol wedi rhoi tro ar hynny, ond yn awr yn dilyn y trywydd ‘toriadau’ sy’n cael ei argymell gan y marchnadoedd. Dywed Zapatero y bydd yn llwyddo i gael y diffyg ariannol i lawr i 6% erbyn diwedd y flwyddyn: ond mae’r etholiad yn dod cyn hynny, felly cawn ni weld a yw pobl yn ei gredu. Yr hyn sy’n ei wneud yn anos y’w ffaith fod cymaint o’r gwario yn cael ei wneud gan y cymunedau awtonomig, a dydyn nhw ddim i gyd yn dilyn yr un llwybr ariannol ag ef.

Nid efe fydd yn arwain ymgyrch y PSOE beth bynnag; ei gyn-ddirprwy Rubalcaba fydd yn mynd mâs yn erbyn Rajoy’r PP. Gyda’r asiantiaethau fel Moody’s yn dal i fynegi amheuon ynglŷn â sefyllfa economaidd y wlad, dwi ddim yn disgwyl y daw’r buddsoddi sydd ei angen cyn mis Tachwedd, os o gwbl. Mae’r PP wedi bod yn gofyn am etholiad ers misoedd: yn awr cânt gyfle i esbonio beth yn union fyddai’u hymateb nhw i’r problemau o ddiweithdra, yn enwedig ymysg pobl ifainc, a digartrefdra (? fi sydd wedi bathu hwnnw) ymysg y rhai sy’n ffaelu talu’r morgais.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: