Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 31, 2011

Bedd y Marcwis

Roedd y daith gerdded a wnaethom ni ddoe yn mynd o Lyn Enol i’r Mirador de Ordiales, ym mhen gorllewinol rhan gorllewinol y Picos de Europa. Rhaid dweud nad yw hi ddim yn dro bach prynhawn – wrth fynd yn weddol gyflym fe gymrodd dair awr a hanner inni gyrraedd pen arall y daith. Mae’r Mirador yn enwog am fod Marcwis Villaviciosa, Pedro Pidal, y dyn a ysgogodd sefydlu’r parc genedlaethol yma yn y 1920au, wedi ei gladdu yma.

A dyma’r bedd. Mae meddwl am y dynion a’r mulod a gariodd y deunydd ac a gododd y peth yn gwneud imi ryfeddu. Yn anffodus roedd y niwl yn meddwl nad oeddem ni’n gweld fawr dim wrth edrych dros y dibyn i’r gorllewin.

Roedd y diwrnod wedi dechrau’n obeithiol, gyda’r llwybr yn mynd heibio majadas  – grwpiau o gabanau lle mae bugeiliaid yn byw yn ystod yr haf. Ond yn fuan fe gododd y niwl o’r iseldir i guddio’r golygfeydd. Mae’r llwybr fel y cyfryw yn un eang a hawdd ei ddilyn, ond roeddem ni’n teimlo’n gaeth iddo.

A diolch byth nad oedd y niwl ddim yn drwch o’n cwmpas, achos yn agos i’r llwybr, ychydig cyn cyrraedd y Mirador, mae un o beryglon y garreg galch, y sima, twll sy’n mynd yn syth i lawr gannoedd o fetrau.

Mae’r mynyddwyr yn mynd adref yfory, felly caf i gyfle i gael trefn ar luniau’r blodau (gyda diolch i Siân ac Arwel am adnabod gymaint ohonyn nhw). Roeddwn i’n synnu faint o wahanaol fathau oedd yn blodeuo ganol haf.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: