Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 1, 2011

Blodau Taith Ordiales 1

Prin ein bod ni wedi disgyn o’r bws yn Llyn Enol a dechrau cerdded i lawr tua’r Vega de Enol pan welsom y planhigyn cyntaf o lawer oedd yn dal y llygad (ha ha).

blodau'r effros ffoto:cathasturias

Dyma effros y mynydd – Euphrasia alpina subsp asturica – yn tyfu mewn ardal sy’n cael ei phori gan wartheg, 1100m uwch y môr. Mae’n tyfu ar hyd y cordillera Cantabrica, ond heb fod yn niferus yn unman. Ydy’r enw Cymraeg yn gysylltiedig â’r gair ‘effro’ , fel yr eyebright Saesneg? Neu a yw’n ffurf sydd wedi ei addasu o’r Lladin?

Sylwi ar y blodau yna oherwydd eu ffurf wnaethom ni, ond y lliw sy’n atyniadol yn y nesaf:

hocysen fwsg ffoto:cathasturias

Rwyf i wedi tynnu’r llun yma’n eitha eang i ddangos lle roedd yr hocysen fwsg – Malva moschata – yn tyfu. Byddai’r rhan fwyaf ohonom ni’n fwy cyfarwydd â gweld aelodau eraill o’r teulu hwn yn tyfu mewn gerddi i faint llwyn go fawr. Yn ôl y llyfr mae’r hocysen fwsg yn gallu tyfu mewn safleoedd o’r môr i’r mynydd, ac fe welsom ni nhw ar hyd y daith i Ordiales.

Ac yn olaf  heddiw, yr heboglys :

heboglys ffoto:cathasturias

Yn ôl llyfr Cymdeithas Edward Llwyd mae llu o wahanol fathau o heboglys sy’n edrych yn debyg iawn i’w gilydd. Hieracium bombycinum yw hwn, yn tyfu ar lethrau gogleddol y Picos ac uchder o dua 1500m. Blodyn fel dant y llew a dail blewog meddal.

Mwy o flodau i ddod!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: