Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 3, 2011

Tywydd Tomatos

Daeth tywydd yr haf yn ei ôl – o leiaf am ddiwrnod. Heddiw am 5 o’r gloch y prynhawn roedd hynny oedd ar ôl o draeth y Guadamia ar awr y penllanw wedi ei guddio gan dwsenni o deuluodd a grwpiau o bobl ifainc, llai na modfedd rhwng tywel un a thywel ei gymydog.

Mae ymddangosiad yr haul yn dodi gwên ar wyneb y bobol busnes: roedd mis Gorffennaf yn gymysg â dweud y lleiaf, a’r safleoedd gwersylla yn arbennig yn dioddef o’r herwydd. (Rwy’n gweld gyda llaw bod lobi’r campervans wedi dechrau cysylltu â’r cyfryngau eleni eto, yn cwyno nad ydyn nhw’n cael aros dros nos mewn llawer i le. Wedi gweld y sbwriel y maen nhw’n gadael ar eu hôl – mewn mannau lle mae ‘na finiau cyhoeddus – dwi ddim yn synnu bod cyfyngiadau arnyn nhw.)

Mae tymor y tomatos wedi dechrau o ddifrif. Un o’m dyletswyddau boreol yw dringo i’r lleuarth i gasglu’r rhai sydd wedi cael lliw, a heddiw am y tro cyntaf roedd digon i’w coginio yn ogystal â bwyta mewn salad. Ac mae cymaint o giwcymbers gyda ni bydd rhaid imi ddechrau’u rhoi nhw’n anrhegion. nd mae rhwybeth wedi digwydd i’r letys: pan es i dorri un heddiw roedd 3 neu 4 wedi pydru o’r canol. Y glaw ddoe mae’n debyg. Fel ‘na mae garddio: smo chi’n cael llwyddiant dilewyrch, na (hyd yn hyn) methiant llwyr.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: