Mae’r ceufadau ar eu ffordd! Sadwrn olaf y ‘Steddfod bob blwyddyn: eleni pan fydd cystadleuwyr yr Unawd Cerdd Dant yn cymryd llwyfan y Pafiliwn, fe fydd cannoedd o piraguas eisoes yn rasio i lawr afon Sella o Arriondas i Ribadesella. Unwaith eto byddan nhw wedi dod o ymhell y tu hwnt i ddyffryn Sella: rhai yr holl ffordd o’r Ariannin.
Ac yn eu sgîl daw miloedd ar filoedd o gefnogwyr, pobl ifainc sydd wedi troi’r ras yn un o ddigwyddiadau mawr yr haf, yn partio tan oriau mân y bore o hyn tan ddydd Sul. Mae’r ddau gyngor lleol, yr heddlu a’r Groes Goch yn barod i geisio cadw pawb yn fyw ac iach (ac yn lân!).
Mae’r gŵr a’r bois eraill eisoes wedi bod i lawr i weld bod ein lle arferol ar gael ar gyfer ‘gwersyll’ y diwrnod, mae fy nhacen foron yn barod i dderbyn yr eisin: dim byd i fecso amdano nawr ond y tywydd, gan fod yr arbenigwyr rheiny’n addo glaw.
Gadael Ymateb