Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 5, 2011

Cilio o’r Byd

Rwy’n teimlo fy mod wedi fy ynysu braidd heddiw. Y newyddion yn llawn o bethau mawr drwg ynglŷn â’r economi a diweithdra, ond yma yn ein cornel bach ni y penbleth yw beth i wisgo ‘fory: a welwn ni’r haul ar lan yr afon fel y llynedd neu fydd glaw heddiw yn parhau?

Yn y byd mawr mae fel petai pawb wedi cael ofn: daeth llôg yr Euribor i lawr heddiw i geisio perswadio banciau ar draws Ewrop i fenthyca rhyngddyn nhw â’u hunain fel mae nhw arfer â gwneud. Ond mae pawb eisiau dal gafael ar hynny sydd gyda nhw (a hefyd yn gorfod cadw mwy o arian nag o’r blaen oherwydd y newid yn y rheolau). Darogan – o swyddfa llywydd y Comisiwn Ewropeaidd – y bydd yr argyfwng yn lledu. Dim ond yr hapfasnachwyr yn hapus, am eu bod nhw’n gallu betio y bydd colledion ac ar eu hennill os daw hynny’n ffaith. Gwledydd mawr fel Sbaen a’r Eidal yn eu hofni nhw nawr.

Yn Madrid neithiwr, fe ruthrodd yr heddlu at grŵp o ryw 200 o bobol ifainc (yn gysylltiedig â’r indignados sydd wedi bod yn gwrthdystio ers tri mis nawr). Roedd yr awdurdodau wedi cae’r sgwâr, a phan arhosodd y protestwyr o flaen adeilad llywodraethol fe aeth yr heddlu ar ruthr i fewn iddyn nhw: 20 wedi cael niwed, y rhan fwyaf yn ysgafn. Eto, does neb yn gwybod beth i wneud i gael swyddi i’r ieuenctid, ac mae peth ofn yn codi ynglŷn â’r gwrthdystiadau.

Mae wythnos o fiestas o’n blaenau: amser i anghofio problemau’r byd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: