Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 6, 2011

Deg Uchaf Bwyd Da

Dyma fy 10 uchaf i o’r lleuarth a’r gegin: y pethau y byddaf yn eu cofio am byth, hyd yn oed os na chaf i gyfle i’w blasu eto.

Tynnu lemwn o’r goeden.  Ar ôl cael y ffrwyth yn dy law, rho dy drwyn lle ddaeth e’n rhydd – lle’r oedd y blodyn gynt. Mae’r perarogl yn ddigon i achosi llesmair, mor felys a chyfoethog yw. Ond fydd e ddim yn parhau mwy na munudau.

Bwyta tomato sydd wedi troi’n goch rhuddem ar y brigyn. Heb ei oeri, heb deithio filoedd o filltiroedd.

Briswion saim (croutons) cartref, wedi eu ffrio mewn olew olewydd, ac nid y pethau bach yna ond darnau maint

Gweld nytmeg yn tyfu. Mae’r gneuen y tu fewn i ffrwyth sy’n debyg i eirin gwlanog. O dorri hwnnw fe welir hi yng nghanol ffrâm o lês sgarled hwn yw’r ‘mace’. Wedyn rhaid cadw’r gneuen hyd nes bydd yn sychu, fel dy fod yn clywed y sbeis ei hun yn cnocio yn erbyn y plisgyn

Sewin o afon Tywi. Sdim rhaid dweud rhagor.

Coginio cranc neu gorgimwch. Os wyt ti’n mynd i fwyta pethau sydd wedi eu lladd er dy fwyn, da gwneud e dy hunan – o leiaf unwaith.

Gweithio torth o fara, gyda burum byw, er mwyn ei weld yn byrlymu yn y dŵr.

Chwilio am y gwerthwyr pysgod/caws/cig gorau lle rwyt ti’n byw. Dysgu oddi wrthyn nhw.

Paratoi gwlych: llysiau’n hawdd, pysgod hefyd os byddi wedi dilyn yr awgrym uchod. Blas dyfnach i bopeth.

Cael cylch o gyfeillion sy’n deall pwysigrwydd bwyd da, a bwyta prydau ynghyd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: