Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 7, 2011

Diwrnod y Ras

Ras fawr y ceufadau – piraguas wedi cyrraedd unwaith eto. Fe ddechreuodd yr hwyl nos Wener pan oeddem yn eistedd y tu fâs i’r bar ar y traeth yn yfed seidr. Roedd hi wedi nosi, tua 10 o’r gloch, pan ddaeth sŵn y pibgorn – gaita  o’r tywyllwch, a cherddodd y cerddor i lawr tuag atom ni yn canu tonau traddodiadol Astwrias.

Fore dydd Sadwrn, i lawr â ni tua glan yr afon, i dreulio diwrnod hyfryd er gwaetha’r tywydd.

Ar ôl awr neu ddwy o nofio yn yr afon, bwyta tortillas  ac yfed seidr, dyma’r glaw yn cyrraedd. Ond dim ots, aeth gweithgareddau’r diwrnod yn eu blaen, gan gymeradwyo’r raswyr, ac yna cynnig seidr iddyn nhw ar eu ffordd yn ôl o’r llinell derfyn i bafiliwn y gwobrwyo  (yng nghefn y llun uchod, ar draws yr afon).

Mewn dim o amser roedd y ceufadwyr yn gorfod aros eu tro i gael llymaid – culin – o seidr ond yn sicr yn ei werthfawrogi.

Gyda’r nos, i far y pentref, lle buom ni’n cysgodi mewn hen sied yn yr ardd ac yn canu tan oriau mân y bore, hen ganeuon y cymoedd glofaol a’r trefi morwrol, ac yna’r rhai yr oedd pobl yn ei cofio o dripiau ysgol – pob un yn wahanol iawn i unrhyw beth Cymreig.

Heno, noson gyntaf fiesta’r pentref : fydd ‘na ddim llawer o gwsg tan ddydd Iau!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: