Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 8, 2011

Fiesta’r Pentref 1

Mae gan ein pentref ni sawl gŵyl –  fiesta – yn ystod y flwyddyn, ond fiesta’r haf yw’r fwyaf o lawer, ac yn parhau  7 -10 Awst. Ddoe tro’r sant oedd e i adael yr eglwys ar ysgwyddau rhai o’r dynion a chael ei gario drwy’r pentref ac yn ôl fel rhan o offeren arbennig.

Un o’r merthyron cristnogol cynnar oedd San Mames, yn byw yn y wlad sydd erbyn hyn yn Dwrci. Mae hanesion ei fod wedi dofi’r llewod yn y syrcas (syrcas o fath Rhufeinig, h.y., lle roedd cristnogion yn aml yn cael eu lladd). Fe ddaeth ei draddodiad i Sbaen 5 canrif yn ddiweddarach gyda’r pererinion ar lwybr Santiago de Compostela, ac mae na lefydd yn Ffrainc a Sbaen sydd â’i enw ar eu heglwysi.

Yn briodol iawn, fe ymddangosodd un o bererinion heddiw tra’r oedd y pibgornwyr yn diddanu’r dorf ar ôl yr offeren. (Maen nhw’n cael eu galw’n bibgornwyr – gaiteros – er bod dau mâs o dri yn chwarae’r drwm.)

Roedd y cerddorwyr wedi dewis y cysgod; dwi ddim yn gwybod beth oedd ym meddwl y pererin i aros yno yn yr haul.

Yfory yw diwrnod mawr yr ŵyl, gyda ffair gaws a dawnsio sy’n dechrau tua hanner nos ac yn gorffen wedi pedwar. Dim gobaith cysgu, man a man fod yno!

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: