Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 9, 2011

Rhifau’r Argyfwng

22%. Y cwymp mewn prisiau tai a fflatiau yn Sbaen ers y copa, ddiwedd 2007. Yn y De, ar lan Môr y Canoldir, fe ddisgynnodd prisiau bron i 30%.

47%. Dyna ganran ieuenctid Asturias sydd heb waith. Ac o feddwl cymaint ohonyn nhw sydd wedi allfudo i ddinasoedd mawrion Sbaen neu i wledydd eraill, fe allai fod yn llawer uwch.

1,500,000,000. Faint o euros a wariwyd ddoe gan Fanc Canolog Ewrop yn prynu bondiau Sbeinig. Mae hyn wedi arwain at leihad yn y radd llog mae Sbaen yn gorfod talu er mwyn denu hapfasnachwyr, a buddsoddwyr o ddifri, i brynu; fydd yn ei dro, mae’n debyg, yn galluogi’r wladwriaeth i dalu’n ôl ei dyledion yn haws.

0.2% a dyfodd economi Sbaen yn ystod y tri mis diwethaf.  Dim digon i godi’i hun o’r dirwasgiad, meddai Banc Sbaen.

1000 o bobl fydd yn dawnsio tan y wawr yn y fiesta heno. 2000 (mwy neu lai) nifer o boteli o seidr fydd yn cael eu hyfed.

 

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: