Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 10, 2011

Fiesta’r Pentref: y Quesu

Cofnod cynnar iawn y bore ‘ma am fy mod angen (a) mynd i’r traeth a (b) mynd yn ôl i’r ysbyty oherwydd fy llygad. Hanes neithiwr yw hi beth bynnag.

Diwrnod y caws – quesu yn Asturias – yw diwrnod mawr y fiesta. Daw cannoedd o bobol yno i fanteisio ar bresenoldeb gwneuthurwyr a gwerthwyr caws o’r ardal rhwng fan hyn a ffin Cantabria, gan gynnwys y Picos de Europa.

gamoneu ffoto:cathasturias

Caws Gamoneu sy’n cael ei dorri yn y llun; caws a wneir o gymysgedd o laeth buwch a llaeth gafr. Mae’n cael ei fygu (yn draddodiadol dros dân o goed afal) a’i gadw mewn ogof nes bydd yn barod. Mae’r rhai ifainc bron yn wyn, y rhai aeddfed yn las gan lwydni. Pawb at ei ddant.

Wedi prynu’r caws, ham, bara, ayyb, eith pawb i’r prau – y cae o flaen y dafarn – i eistedd gyda’u teuluoedd a’i chyfeillion. Amser i flasu cynnyrch y tir (gan gynnwys y seidr wrth gwrs) ac i rannu hanesion gyda’r rheiny sy’n dychwelyd i bentref eu mebyd ym mis Awst.

Ac wedi gorffen hynny, i’r pista – lle dawnsio rhwng yr eglwys a’r hen ysgol, i geisio cael digon o le i symud ac i ddawnsio nes bod coesau blinedig yn mynnu mynd tuag adref. A hynny tua 03.30.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: