Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 11, 2011

Fiesta’r Pentref: Diweddglo

Dyma’n gŵyl ni drosodd am flwyddyn arall. Y gêm pêl-droed traddodiadol (a ail-sefydlwyd y llynedd) yn cael ei ennill gan y dynion 2-1 dros y llanciau. Nid yn unig yr oedd y gŵr yn chwarae, ond oherwydd diffyg yn rhengoedd y dynion, bu’n rhai i fy mrawd, oedd newydd gyrraedd am wythnos o wyliau, gymryd rhan hefyd.

Roedd y cae yn llawer gwell eleni – dim coeden ‘falau ar ei ganol e, i ddechrau – ond un peth oedd yn fy mecso i oedd ei fod ar lan y rheilffordd.

Dyma drên yr hwyr o Santander yn mynd heibio: diolch byth doedd hynny ddim pan oedd y bêl wedi ei lansio i’r lein.

A dyma nhw’r chwaraewyr ar ôl y chwiban olaf. Amrywiaeth oedran yn amlwg! Ond er gwaetha coesau chwim yr ifainc, profiad a maint corfforol y dynion aeth â hi.

Yn ddiweddarach (tua hanner nos) aeth pawb lan i ganol y pentref ar gyfer noson arall o ddawnsio. Yr un olaf am dipyn diolch byth. Mae angen dipyn o gwsg ar bawb.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: