Am dro i draeth Vega, ym mhen arall ardal Ribadesella, i’r teulu gael profi traeth gwahanol iawn i’r Guadamia. Mae Vega yn fae eang gwyntog sy’n denu heidiau o bobl ifainc a brigwyr tonnau. Yn anffodus ddoe roedd y llwybr a gymersom hefyd wedi denu haid o wenyn oedd wedi eu poeni gan rywbeth – neu efallai’n symud tŷ – a bu’n rhaid inni redeg nôl at y car a gyrru i lawr yno.
Roedd rhai o’r brigwyr tonnau yn edrych yn broffesiynol iawn: y math o bobol fydd yn gwersylla ar lan y môr drwy’r haf o leiaf ac yn dilyn y tonnau o un traeth i’r llall. Ond mae hefyd yn bosib rhentu byrddau a chael gwersi.
Tan yn ddiweddar yr oedd y twyni tywod sydd y tu ôl i’r traeth yn Vega yn cael eu erydu’n gyflym, a hynny’n rhannol am fod cymaint o bobol yn mynd yno, yn parcio ac yn cerdded ar eu hyd. Yn awr rhaid parcio mewn mannau arbennig, ac mae ‘na lwybrau estyllod yn arwain at y traeth ac ar hyd yr arfordir (mae hwn hefyd yn rhan o lwybr Santiago).
Treuliais i amser yn crwydro’r traeth yn chwilio am ddarnau da o ffliworid, carreg porffor golau. Mae pwll cyfagos yn dal i gynhyrchu’r garreg ar gyfer y diwydiant dur ac ar gyfer gwneud gemwaith. Ond y tro hwn, chwilio yn ofer a wnes i: yr unig liwiau cryf oedd dillad yr ymwelwyr.
Gadael Ymateb