Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 14, 2011

Ffrwyth ein Llafur

Rwy’n gwybod fy mod i wedi achwyn yn aml ynglŷn â phroblemau garddio yma yn Asturias. Heddiw dyma rai o’r pethau sydd yn gwneud yn dda.

Yn gyntaf, y cwins. Hen gyfaill ers y flwyddyn gyntaf sy’n dod â ffrwyth bob blwyddyn.

Mae’r rhain yn edrych yn debyg i gellyg melyn cryf ond nid yw’n bosib eu bwyta’n amrwd. Ar gyfer cyffaith, neu i roi sleisen neu ddwy mewn stiw, maen nhw’n fendigedig.

 

  Coeden afal fel Cox yw hon, yr afalau’n fwy coch na’r Cox yr wyf i wedi eu harfer gweld, ond yn flasus tu hwnt.

Dyma’r flwyddyn gyntaf iddi ddwyn cnwd llawn, a gobeithio y bydd yn parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod.

Afalau seidr yw’r rhan fwyaf o’r coed sydd gyda ni, ond ryn ni eisiau cael mwy o rai bwyta.

 

Ac os oes gan unrhywun ryseits da am giwcymbers – gad wybod! Mae’r tywydd twym a llaith yma yn dod â nhw bod yn eilddydd.

Ac yn wir dim ond hyn a hyn o tzatziki y gall rhywun ei fwyta mewn bywyd.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: